Pechadur fy Arglwydd a'i gŵyr
Pechadur wyf f'Arglwydd a'i gŵyr
Pechadur wyf'r Arglwydd a'i gŵyr

(Anthem y gwaredigion)
Pechadur, fy Arglwydd a'i gŵyr,
  Pechadur a garwyd yn rhad,
Pechadur a gliriwyd yn llwyr
  Yn rhyfedd trwy
      rinwedd y gwaed,
Pechadur a orfu fyn'd trwy
  Ryw stormydd o ddyfroedd a thân,
Pechadur na orphwys byth mwy,
  Nes dringo i'r nefoedd yn lân.

'R anrhydedd, y gallu, a'r clod,
  Y moliant, a'r parch yn gytun,
O'r nefoedd i'r ddaear gaiff fod,
  Yn gyfan i'm Harglwydd ei hun;
Hed son am dy haeddiant
    trwy'r byd,
  Yr adsain fo'n llanw pob lle,
Helaetha dy deyrnas o hyd,
  Nes myned yn aeddfed i'r ne'.

Mi gara f'anwylyd o hyd,
  Fy Mhrynwr, fy Mhriod, a'm Pen;
O'r diwedd fe sugnodd fy mryd,
  O'r ddaear i'r nefoedd uwch ben:
Gwyn fyd a fae'n gorwedd yn awr,
  Yn llonydd y'ngwaelod fy medd,
Mi godwn er dorriad y wawr,
  Yn ddisglaer i weled ei wedd.

Aed ein Haleluia ni'n lân,
  Trwy'r awyr anfeidrol ei maint;
Cymmysged caniadau rhai gwan,
  A thyrfa luosog o saint:
Mae yno adenydd fy IOR,
  Yn taenu fel nefoedd ar led,
Dros hyfryd briodas-ferch yr Oen,
  О f'enaid i fynu ehed.
luosog :: liosog
IOR :: ION
             - - - - -
              1,2,(3).

Pechadur wyf, f'Arglwydd a'i gŵyr,
  Pechadur a garwyd yn rhâd;
Pechadur a gliriwyd yn llwyr
  Yn rhyfedd trwy
      rinwedd y gwaed;
Pechadur a orfu fyn'd trwy
  Ystormydd o ddyfroedd a thân;
Pechadur na orphwys byth mwy
  Nes dringo i'r nefoedd yn lân.

Pryd hyny câf glywed y gair -
  Y gair sydd felusach nag un,
Yn seinio ffurfafen y nef
  O enau f'Anwylyd Ei Hun:
"De'wch, blant bendigedig fy Nhad,
  De'wch, etholedigion i gyd,
Meddienwch y deyrnas yn rhâd
  Bar'toed i'ch cyn
      seiliad y byd."

Er gofid a blinder o hyd,
  A rhwystrau bob
      mynyd o'r awr,
Er gelynion echryslon i gyd,
  Sy'n curo fy ysbryd i lawr,
Fy enaid lluddedig a ddaw,
  Trwy dymhest, trwy
      dònau, trwy dân,
Er gwaetha pob dychryn a braw,
  I'm cartref tragwyddol yn lân.
wyf f'Arglwydd :: wyf'r Arglwydd
Ystormydd :: Ryw 'stormydd

William Williams 1717-91

Tonau [MHD 8888D]:
Arabia Newydd (Lowell Mason 1792-1872)
Llangristiolus (Joseph Parry 1841-1903)
Luther's (Gesangbuch Klug 1535)

gwelir: Wrth gofio'i riddfannau'n yr ardd

(Anthem of the delivered)
A sinner, whom my Lord knows,
  A sinner who was loved freely,
A sinner who was cleared completely
  Wonderfully through
      the virtue of the blood,
A sinner who must go through
  Some storms of waters and fire,
A sinner who will not rest any more,
  Until climbing clean to the heavens.

The honour, the power, and the acclaim,
  The praise, and the respect in accord,
From the heavens to the earth may be,
  Totally to my Lord himself;
May the news of thy merit fly
    through the world,
  The resonance be filling every place,
Thy kingdom will spread always,
  Until going mature to heaven.

I will love my beloved always,
  My Redeemer, my Bridegroom, and my Head;
At last he sucked my intention,
  From the earth to the heavens up above:
Blessed who is resting now,
  In peace at the bottom of my grave,
I will rise because of the break of dawn,
  Brightly to see his face.

May our Hallelujah go clean
  Through the sky of immeasurable extent;
May songs of the weak mix
  With the numerous throng of the saints:
My MASTER's wings are there,
  Spreading like heavens abroad,
Over the lovely bride of the Lamb,
  O my soul fly up.
::
::
                - - - - -
                 1,2,(3).

A sinner I am, my Lord knows it,
  A sinner who was loved freely;
A sinner who was cleared completely
  Wonderfully through
      the merit of the blood;
A sinner who had to go through
  Storms of waters and fire;
A sinner who shall never more rest
  Until climbing to heaven clean.

Then I shall get to hear the word -
  The word which is sweeter than any,
Resounding the firmament of heaven
  From the mouth of my Beloved Himself:
"Come, blessed children of my Father,
  Come, all ye chosen,
Possess the kingdom freely
  Prepared for you before
      the foundation of the world."

Despite grief and exhaustion still,
  And frustrations every
      minute of the hour,
Despite all dreadful enemies,
  Who are beating my spirit down,
My exhausted soul shall come,
  Through tempest, through
      waves, through fire,
Despite every horror and terror,
  Up to my eternal home.
I am, my Lord :: I am, the Lord
Storms :: Some storms

tr. 2010,20 Richard B Gillion


The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~